Suzanne Carter
Rheolwr Marchnata Llawrydd
Mae Suzanne wedi bod yn gweithio ym meysydd marchnata celfyddydau, diwylliant a digwyddiadau ers dros 20 mlynedd.
Yn gyn-ohebydd newyddion a chyflwynydd ar orsafoedd radio yn ne Cymru, cafodd ei blas cyntaf ar farchnata tra'n gweithio yn The Wave a Swansea Sound yn y 00au cynnar. Mae hi wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau annibynnol, elusennol a diwylliannol gan gynnwys CBS Castell-nedd Port Talbot, CBS Blaenau Gwent, Theatr Sherman a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Fel gweithiwr llawrydd mae hi'n cefnogi Humans Move gyda throsolwg strategol o bopeth sy'n ymwneud â chyfathrebu ac yn helpu'r tîm i gynyddu ymwybyddiaeth o'r gwaith anhygoel y mae'r tîm yn ei wneud.