Laura Moy
Perfformwr
Mae Laura Moy yn artist ac yn berfformiwr sy'n gweithio gyda dawns, syrcas gyfoes a theatr.
Mae hi'n caru proses chwareus a chreadurol, gan dynnu ar ymarferion symud somatig a chorfforedig. Mae Laura wedi gweithio'n rhyngwladol i gwmnis gan gynnwys NoFit State Circus, Pirates of the Carabina, National Theatre Wales ac Imagineer – ar y llawr, yn y coed, yn yr awyr a thrwy air ysgrifenedig a llafar.
Mae hi hefyd yn creu ei gwaith artistig ei hun, yn hwyluso gweithdai symudiad creadigol mewn polyn Tsineaidd a gwaith llawr, ac mae'n hanner y cwmni theatr syrcas Trash Cat Productions.
Mae hi'n hapus iawn bod yn ôl yn y stiwdio gyda Humans Move.