Jessie Brett
Cyfarwyddwr Artistig - Humans Move
Yn wreiddiol o Gymru, mae’r coreograffydd Jessie Brett wedi bod yn gweithio o fewn dawns ers 16 o flynyddoedd yn dawnsio, dysgu, coreograffi, rheoli prosiectau a cyfarwyddo.
Mae Jessie yn goreograffydd arobryn, mae wedi bod yn creu, teithio a cynhyrchu cynhyrchiadau dawns cynhwysiedig ers 2016 ac wedi gweithio efo cymunedau yng Nghymru ac Ethiopia. Yn y blynyddoedd yma mae wedi derbyn llawer o wersi am fywyd, diwylliant a braint sydd wedi newid ei pherspectif yn llwyr a’i agwedd tuag at fywyd. Mae wedi datblygu ei ymarfer cynhwysiedig yn Ethiopia efo Cwmni Dawns Adunya, Meseret Yirga a Cwmni Dawns Destino. Yn Ethiopia profiwyd agwedd newydd oedd yn ysbrydoledig, chwareus, di-ofn a thrugarog.
Mae’n un o sylfaenwyr Groundwork Pro yn Ngymru, Contemporary Nights yn Ethiopia a grwp Dawns Addis Guzo, hyfforddiant dawns i bobl lleol anabl yn Addis Ababa.
Yn 2021 sefydlodd Humans Move i rannu ei ymarfer, a’i phrofiad bywyd a dawns efo’r gymuned yng Ngymru a thu hwnt.