Dave Baxter
Cynhyrchydd
Mae David yn rheolwr prosiectau celfyddydol, cynhyrchydd ac ymgynghorydd llawrydd.
David oedd Rheolwr Cyffredinol Theatr Borough, Pennaeth Arts Active - y tîm addysg, cymunedol ac ymgysylltu â’r gynulleidfa yn Neuadd Dewi Sant a’r Theatr Newydd, ac roedd yn arwain rhwydwaith Celf ac addysg canol de Cymru fel rhan o’r rhaglen Dysgu Creadigol trwy’r Celfyddydau.
Bu’n gweithio fel ymarferwr, cynhyrchydd a rheolwr ar amrywiaeth o brosiectau celfyddydol cymunedol ac addysgol ac yn ddiweddar bu’n cynhyrchu sioe Nadolig ‘Beauty and the Beast’ ar gyfer Theatrau Sir Gaerfyrddin.