Dyfarnwyd grant ymchwil a datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn Ebrill 2023 i roi hwb i’n gwaith fel Cwmni.
Yn gyntaf, aeth Jessie i weld Andrew Purvin cyfarwyddwr Fetch Theatr yn Llanllieni i ddysgu am bypedwaith cysgodion, pypedau a dylunio set. Treuliodd Jessie wythnos gyda Purvin yn ei weithdy yn chwarae, yn cyflawni tasgau, yn dysgu dulliau chwedleua ac yn olaf creu ei phyped ei hun o’r enw Tariku, mae ei stori ef mewn Amharig. Fe wnaethon nhw drafod syniadau a chynllunio’r wythnosau ymarferol. Teithiodd Jessie i ymweld â grwpiau dawns cynhwysol ar draws Cymru a rhoi gweithdai iddyn nhw. Ymwelodd ag Impelo, WISP, Dance Blast, Motion Control ac Academi Hijinx yng Nghaerdydd, Aberystwyth, Bae Colwyn a Chaerfyrddin.
Roedd Jessie am gael syniad cliriach am y gwaith y mae sefydliadau yn ei wneud yn barod yng Nghymru ac i weld a oedd unrhyw ddawnswyr a allai ymuno â ni yn ein hwythnosau ymchwil a datblygu yn Theatr Brycheiniog. Ar draws Cymru daeth o hyd i lawer o waith gwych sy’n digwydd gydag athrawon anhygoel yn gwneud gwaith rhyfeddol, oedd yn bleser ei weld. Mae llawer o frwdfrydedd a thalent, ac fe lwyddodd i wahodd 3 dawnsiwr i ymuno â’r ymchwil a datblygu o Hijinx, WISP a Dance Blast.
Aeth Jessie wedyn i ymchwilio a darllen llawer o lyfrau am lên gwerin Cymru ac Affrica. A phlymiodd ddyfnderoedd Gene Keys gan chwilio am eglurder o ran pa neges yr oedd am ei gyflwyno trwy’r gwaith, a ofynnodd am lawer o ymchwil mewnol a dychmygu’r byd y byddai Jessie a’i phlant yn hoffi byw ynddo.
Teitl Fideo: Dynion yn Symud
Cyfarfu Jessie a Lara gyda’r plant am 2 noson yng ngorllewin Cymru i gerdded y tir, ymweld â chestyll hynafol, ac ystyried hud a lledrith Cymru a’i hanes. Dysgodd Jessie weithdai yn Ysgol Penmaes, ysgol flaengar sy’n arbenigo mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Aberhonddu. Roedd Jessie yn gweithio gyda dau ddosbarth 5-6 oed ac 14-16 oed. Yna gwahoddodd Jessie’r ddau grŵp yma i’r theatr i rannu ein gwaith gyda nhw i gael eu hymateb a gweld sut beth oedd eu cael yn y gynulleidfa.
Cynlluniodd Jessie gyfnewidfa gyda'r grŵp o ddawnsiwr y bu'n gweithio'n agos gyda nhw yn Ethiopia ers blynyddoedd lawer o'r blaen. Bu'n gweithio'n agos gydag Edom Baheru wrth iddi hwyluso'r gyfnewidfa gyda Addis Guzo Dance Group, hyfforddiant i ddawnsiwr anabl y bu'n ei sefydlu gyda Dawit Seto yn 2018 a dawnsiwr proffesiynol lleol eraill sydd wedi gweithio ar the Humans Move.
Titl Fideo: Cartref
Cynlluniodd Jessie gyfnod cyfnewid gyda grŵp o ddawnswyr yr oedd wedi gweithio’n agos gyda nhw yn Ethiopia am flynyddoedd lawer yn y gorffennol. Bu’n gweithio gydag Edom Baheru yn glos wrth hwyluso’r cyfnewid gyda’r Grŵp Dawns Addis Guzo, hyfforddiant yr oedd hi wedi ei sefydlu i ddawnswyr anabl gyda Dawit Seto yn 2018 a dawnswyr proffesiynol lleol eraill oedd wedi gweithio gyda Humans Move. Roedd hi am dreialu cyfnewid ar-lein i weld beth oedd yn bosibl ac a oedd yn rhywbeth y byddem yn hoffi ei ddatblygu ymhellach yn y dyfodol. Ym mis Hydref daethom at ein gilydd o’r diwedd gyda 6 o ddawnswyr rhyfeddol, pyped, dylunydd ac ymgynghorydd byddar yn Theatr Brycheiniog am 3 diwrnod. Fe wnaethom ddechrau trwy gael cyfarfod zoom â’r grŵp yn Ethiopia gan gynhesu gyda’n gilydd, roedd hyn mor emosiynol a hyfryd. Gosododd Jessie dasg i’r ddau grŵp ac fe wnaethom ddiffodd y camerâu i’w wneud ac yna dod yn ôl at ein gilydd i’w ystyried wedyn. Cadwyd cofnod o’r holl waith a wnaeth y grŵp yn Ethiopia. Roedd y 3 diwrnod yma’n llawer o hwyl.
Fe wnaethom archwilio llawer o syniadau a dod i adnabod ein gilydd fel grŵp. Mae hyn yn cymryd amser, yn enwedig pan fyddwch yn gweithio gyda dawnswyr anabl a heb anabledd gan fod angen llawer o ddealltwriaeth a dod i adnabod ein gilydd. Fe wnaethom arbrofi gyda ffabrigau a phropiau, pypedwaith cysgodion, byrfyfyrio a symud a rhoi tro ar ein pyped Tariku. Ar ôl y 3 diwrnod hynny o arbrofi roedd gennym 3 wythnos tan ein hwythnos olaf yn y stiwdio ac aeth Jessie i weithio o ddifri ar y cysyniad ar gyfer y gwaith. Roedd thema bendant o hudoliaeth natur, gofalu amdanom ein hunain, ein plant mewnol, ein gilydd a’n byd hyfryd. Ond yn y 3 wythnos yma canolbwyntiodd o ddifri ar y pyped a phwy allai’r bachgen bach yma fod/ei gynrychioli.
Teitl Fideo: Cysylltiad
Cyfarfu’r grŵp yn Ethiopia am 3 diwrnod ym mis Hydref a Thachwedd a chreu stori pypedwaith cysgodion hardd, deunydd symud arbennig a gosod tasg i ninnau hefyd. Roedd yn ysbrydoliaeth wirioneddol cael y cysylltiad gyda’r dawnswyr rhyfeddol yma ac rydym yn gobeithio ei fod wedi eu hysbrydoli hwythau hefyd. Yn y dyfodol rydym am ddatblygu’r cysylltiad hwn a dod o hyd i ffyrdd i’w cefnogi yn greadigol a pharhau ein cysylltiad ac ysbrydoli ein gilydd. Roedd yn brosiect mor gyfoethog a chraff ac yn gychwyn gwych i’n gwaith fel cwmni.
Diolch yn fawr i Gyngor Celfyddydau Cymru, Theatr Brycheiniog, a’r holl dîm a wnaeth hyn yn bosibl.