Tri dawnsiwr, yn perfformio fesul un ac wedi’u cysylltu gan linell ruban las. Ar y chwith mae dawnsiwr dynol â Syndrom Down yn chwifio ei freichiau yn yr aer. Mae Giverney yn ymestyn ei chorff cyfan, gydag un fraich yn yestyn uchel yn yr aer, a’r llall allan i’r ochr. Mae un troed hefyd yn pwyso yn ôl. Mae Giv yn ei thegeinfedau hwyr, gyda gwallt blond syth hir, sy’n cael ei wisgo’n aml mewn un braid i lawr ei chefn wrth ddaynsio. Mae gan Giverney syndrom Down, fodd bynnag nid yw hyn yn diffinio hi na’i gweithredoedd, dim ond un agwedd ar ei phersonoliaeth unigryw a Bywiog. Ar y dde mae Adi sydd ag un fraich o flaen ei wyneb. Mae Adi yn ddawnsiwr ac actor yn ei ugeiniau gyda gwallt byr a gwallt wyneb du. Implowdir ei arddull symud gan ddawns draddodiadol Ethiopia, hip hop, a ffurfiau cyfoes.

Taith Let Life Dance 2025

Cyhoeddwyd: Dydd Mercher 26 Chwefror 2025

Yn dilyn ein gwaith ymchwil a datblygu'r llynedd, rydym yn awr yn anelu at daith newydd yr haf hwn yng Nghymru.

Bydd Let Life Dance yn sioe theatr ddawns broffesiynol sy’n anelu am Aberhonddu, Caerdydd, Casnewydd ac Aberdaugleddau. Disgwyliwch berfformiadau pwerus gan gast o ddawnswyr ag anabledd a heb anabledd sy’n llawn o gydymdeimlad â’n profiad dynol. Rydym yn dathlu gwahaniaeth ac yn toddi rhwystrau i greu’r amodau ar gyfer agor calonnau yn ddiddiwedd. Dilynwch daith y cast wrth iddyn nhw ganfod eu ffordd trwy ddyfroedd heriol bywyd o droadau, troelliadau, ymyrraeth ac anhrefn wrth iddyn nhw ddarganfod sut i gysylltu yn ôl â hwy eu hunain, ei gilydd ac ildio i ddawns gyffrous bywyd.

Bydd Let Life Dance yn cael ei goreograffu gan y coreograffydd arobryn Jessie Brett, gyda cherddoriaeth wedi ei chyfansoddi gan enillydd BAFTA, Jered Sorkin.

Mwy o fanylion i’w cyhoeddi ar ddiwedd Mawrth gan gynnwys manylion y daith.

cyWelsh